Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 27 Medi 2017
Amser:
09.30 -
12.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4409
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Suzy Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Gary Doherty, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Russ Favager, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Allison Williams, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Mark Thomas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Vanessa Young, Conffederasiwn GIG Cymru Steve Moore, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Stephen Forster, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Len Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Bob Chadwick, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC a dirprwyodd Suzy Davies AC ar ei rhan.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
3.2 Cytunodd Steve Moore i roi nodyn i'r Pwyllgor ynglŷn â darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl ar y model Trieste y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ei ddefnyddio i gynorthwyo i lywio ei raglen weithredu 'Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl'.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.
6.1 Trafododd y Pwyllgor gopi drafft o adroddiad ei ymchwiliad i glystyrau gofal sylfaenol. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.
7.1 Cytunodd yr Aelodau i ymgymryd ag ymchwiliad i atal achosion o hunanladdiad. Cyhoeddir yr ymchwiliad a'r ymgynghoriad cysylltiedig cyn bo hir.
7.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad byr i'r Rhestr Cyflawnwyr Meddygol; bydd cynigion yn cael eu cwblhau yn fuan.
7.3 Cafodd yr Aelodau drafodaethau cychwynnol ynghylch cynlluniau ar gyfer ymchwiliadau eraill yn y dyfodol, gan gynnwys seilwaith TGCh, a chytunwyd i gwblhau cynigion mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.